Edrychwch, Dywedwch, Canwch, Chwaraewch

O’r cychwyn cyntaf, pob tro byddwch chi’n siarad, canu neu chwarae gyda’ch babi, rydych yn adeiladu perthynas, ond hefyd yn adeiladu ei ymennydd.

Cofrestrwch i gael awgrymiadau defnyddiol ar adeiladu’r ymennydd
Cofrestrwch i gael awgrymiadau defnyddiol ar adeiladu’r ymennydd

(Darllenwch y dudalen hon yn Saesneg - Read this page in English)

Rydym wedi ymuno â Vroom™ er mwyn rhoi ychydig o awgrymiadau hwyliog a hawdd i’ch helpu chi i ddod â hyd yn oed mwy o Edrych, Dweud, Canu a Chwarae i drefn bob dydd eich babi. Byddwn yn anfon awgrym newydd, sydd wedi’i deilwra i oedran eich plentyn, pob wythnos.

 

Cofiwch Edrych, Dweud, Canu, Chwarae

Ond waeth os yw hi’n amser ymolchi, amser gwely neu hyd yn oed pan fyddwch yn golchi’r llestri, bydd chwarae gyda’ch babi, siarad mewn lleisiau gwirion neu ganu yn adeiladu ei ymennydd o’r cychwyn cyntaf. Mae’n ffordd wych o gael hwyl wrth wneud eich perthynas yn gryfach fyth.

Sut mae adeiladu’r ymennydd yn gweithio?

 

Yn ystod blynyddoedd cyntaf bywyd eich plentyn, mae ei ymennydd yn creu miliwn o gysylltiadau nerfol pob eiliad. Mae profiadau positif a chefnogol gyda rhieni ac oedolion eraill yn bwysig i ddatblygiad ei ymennydd.

Ond mae’n fwy na chanu neu siarad wrth eich babi. Bydd adeiladu’r ymennydd yn digwydd pan fyddwch chi a’r un bach yn rhyngweithio gyda’ch gilydd. Mae’n ymwneud â chymryd ciw ganddyn nhw, ac ymateb i beth maent yn ei wneud. Meddyliwch amdano fel gêm o denis – yn mynd yn ôl ac ymlaen rhyngoch chi’ch dau.

Rydym wedi cynnwys ychydig o awgrymiadau defnyddiol ar adeiladu’r ymennydd (a’r wyddoniaeth y tu ôl iddynt) isod. 

Cael awgrymiadau ar alw

Os ydych chi eisiau awgrymiadau sydyn ar gyfer ffordd hawdd a hwyliog o ddatblygu ymennydd eich babi, gallwch siarad â’n sgwrsfot newydd Edrych Dweud Canu Chwarae (ar gael yn Saesneg yn unig).

Gallwch hefyd ddod o hyd i lawer o awgrymiadau ar fideos ar ein sianel YouTube.

Rhowch gynnig ar y rhain

Lullaby remix - Look say sing play.jpg

Stori a swatio

Mae eich plentyn wrth ei fodd yn cael cwtsh ac yn clywed eich llais. Byddwch yn agos ato wrth rannu stori neu gân. Defnyddiwch lais tyner a thawel fydd yn ei helpu i fynd i gysgu’n gyflym. Gall hyn ddod yn drefn bob nos sy’n rhoi gwybod ei bod hi’n amser gwely.

Mae creu perthynas yn llawn ymddiried, sy’n teimlo’n agos ac yn ddiogel, yn creu amgylchedd dysgu. Drwy siarad yn ôl ac ymlaen, rhannu geiriau a synau gyda nhw ar ffurf straeon a chaneuon, rydych yn helpu nhw i ddatblygu’n ddysgwyr gydol oes.

Toothy wonder - Look say sing play.jpg

 Edrych i’w lygaid

Cymrwch ychydig funudau ac edrychwch i lygaid eich plentyn. Wrth iddo edrych yn ôl, gwenwch, a siaradwch. Gwnewch beth mae’r plentyn yn ei wneud, os yw’n amrantu, amrantwch chi hefyd. Os yw’n edrych i’r chwith, edrychwch chi i’r chwith hefyd. Gadewch i’ch plentyn weld eich llygaid hefyd, a cheisiwch beidio â thorri’r cyswllt llygaid.

Pan fydd eich plentyn yn edrych arnoch a chithau’n ymateb, mae’n creu sawl cysylltiad newydd yn ei ymennydd. Mae plant yn dysgu orau drwy berthnasau cariadus, felly pan fyddwch yn edrych ar eich gilydd ac yn ymateb i’ch gilydd, mae perthynas agos yn cael ei chreu.

Wait for it...- Look say sign plan.jpg

 Dim ond chdi a fi

Yn ystod adeg dawel, eisteddwch neu orweddwch ger eich plentyn, wyneb yn wyneb, a byddwch yn dawel am ychydig funudau. Gwyliwch. Yw’r plentyn yn edrych arnoch? Os yw’n gwneud synau neu’n gwenu, gwnewch synau neu wenwch yn ôl. Gallwch ddweud llawer iawn wrth eich gilydd drwy fod yn dawel!

Mae creu perthynas ddiogel yn llawn ymddiried yn creu sail i’ch plentyn i deimlo fel ei fod wedi’i gefnogi wrth dyfu a dysgu. Pan fyddwch yn cymryd amser i wylio eich babi a dod i adnabod ei ddull cyfathrebu, bydd eich cysylltiad yn mynd yn fwy agos.

Stories and suds - Look say sing play.jpg

Golchi gwirion

Byddwch yn wirion wrth ddod yn lân! Dwedwch wrth eich plentyn, “Beth am olchi dy ddwylo?” ond dechreuwch olchi ei draed. Beth mae’n ei wneud? Yna dywedwch: “O! Dy draed yw’r rhain! Ble mae dy ddwylo?” Wrth iddo fynd yn hŷn, gadewch iddo arwain, gan ddefnyddio rhannau eraill o’r corff megis peneliniau, garddynau a fferau.

Mae eich plentyn yn canolbwyntio er mwyn gwrando ar eich geiriau, ac yn defnyddio’r hyn y mae’n ei wybod yn barod i chwarae’r gêm wirion hon gyda chi, sy’n cryfhau ei gof. Mae hefyd yn ymarfer meddwl yn hyblyg am bethau sy’n groes i’w gilydd, yn ogystal â dysgu geiriau newydd a beth maent yn ei feddwl mewn ffordd hwyliog!

Changing chats - Look say sing play.jpg

Odlau Cysurus

Pan fydd eich plentyn yn ffyslyd, ceisiwch ganu odl neu gân. Yw’r plentyn yn ymlacio pan fydd eich llais yn dawel, neu yw e’n ymateb yn well i fynegiannau mawr a llais brwdfrydig? Rhowch gynnig ar odlau a chaneuon gwahanol i ddod o hyd i’w ffefrynnau.

Pan fyddwch yn ymateb i symudiadau a synau eich plentyn, byddwch yn adeiladu perthynas yn llawn ymddiried fydd yn cefnogi ei ddysgu yn y dyfodol. Rydych hefyd yn addysgu nhw i ymdopi â straen, wrth annog cariad at iaith.

Mastering funny faces - Look say sing play.jpg

 Canu Traddodiadau

Rydym yn gwneud rhai pethau pob dydd. Canwch yr un gân er mwyn egluro beth rydych chi’n ei wneud gyda’ch plentyn. Enghreifftiau o hyn yw gadael ystafell, gorffen bwyta, neu olchi dwylo. Beth ydych chi’n ei wneud pob dydd y gallech chi ganu amdano?

Mae plant yn dwlu ar draddodiadau. Mae canu am eu gweithgareddau beunyddiol yn rhoi cysur trefn gyfarwydd. Yn ogystal, mae’n helpu eich plentyn i greu cysylltiadau rhwng ei brofiadau a geiriau newydd. Maent yn dysgu iaith drwy’ch canu chi.

 

Ychydig am Vroom

Mae Vroom yn credu bod pob rhiant eisiau’r hyn sydd orau i’w plant. Mae Vroom yn darparu awgrymiadau ac offer sy’n seiliedig ar wyddoniaeth i ysbrydoli teuluoedd i droi eiliadau bob dydd yn eiliadau sy’n adeiladu’r ymennydd. Mae Vroom, rhaglen fyd-eang o’r Bezos Family Foundation, yn helpu rhieni i roi hwb i ddysgu eu plentyn yn ystod yr amser maen nhw’n ei dreulio gyda’i gilydd yn barod. Mae Vroom yn cwrdd â rhieni lle bynnag y maen nhw, gyda phobl cyfarwydd ac mewn llefydd cyfarwydd. Ers 2015, mae Vroom wedi tyfu i effeithio ar bron i 1,500,000 o deuluoedd mewn 37 talaith a 6 gwlad ledled y byd.